Croeso

Croeso i wefan y Crynwyr Cymru. Credwn fod rhywbeth sanctaidd ynom i gyd.

Dewch i ddarganfod mwy am bwy yw Crynwyr Cymru, sut ‘rydym yn addoli ac yn byw ein bywydau, a sut y gallwch chithau ymweld neu ymuno â ni.

 

Welcome to the Quakers in Wales website. We believe that there is something of God in everyone. Explore our website to discover more about Quakers in Wales – who we are, how we worshop and live our lives, and how to find a Quaker Meeting near to you.

To explore this website in English please click on the button below:

Amdanon Ni

Crynwyr Cymru yw’r sefydliad sydd yn tynnu Crynwyr sy’n byw yng Nghymru at ei gilydd. Mae’n gweithio gyda’r 4 cyfarfod rhanbarthol yng Nghymru a’r Gororau Deheuol. Mae fel rheol yn ymgynnull dair gwaith y flwyddyn i addoli ac i gynllunio’r gwaith. 

Dod o hyd i Gwrdd

Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn mynychu cyfarfod Crynwyr, byddem yn argymell i chi gysylltu â’r cyfarfod sydd yn fwyaf lleol i chi yn gyntaf. Er mwyn darganfod ble mae eich cyfarfod agosaf, cliciwch ar y rhanbarth berthnasol ar y tudalen isod.

Beth mae’r Crynwyr yn ei ddweud:

  • Mae rhywbeth sanctaidd ynddom ni i gyd.
  • Mae pawb yn gyfartal yng ngolwg Duw.
  • Mae crefydd yn ymwneud â bywyd yn ei gyfanrwydd.
  • Mewn tawelwch down o hyd i ymdeimlad dyfnach o bresenoldeb Duw.
  • Mae gwir grefydd yn arwain at barchu’r ddaear a’r holl fywyd sydd arni.
  • Mae pob unigolyn yn unigryw, yn werthfawr ac yn blentyn i Dduw.

Amdanon Ni

Down ynghyd i helpu’n gilydd i fod yn agored i’r ysbryd. Mae yna hen hanes i’r Crynwyr yng Nghymru a chroesawn bawb sy’n chwilio am fyd ble gall pawb ddilyn yr ysbryd a byw’n heddychlon. Ceisiwn gymdeithas deg sy’n cydnabod gwerth pob person.

Hanes y Crynwyr yng Nghymru

Cychwynodd yr hyn a adnabyddir fel Crynwriaeth yn ystod y dyddiau tywyll a thresigar tua diwedd rhyfeloedd cartref y 1640au. Roedd y wlad mewn helbul yn sgil digwyddiadau’r cyfnod, megis dienyddio’r Brenin Siarl 1af yn 1649. Roedd dadleuon lu am yr angen i’r eglwys ddiwygio; am natur a dulliau’r llywodraeth; am yr anghyfartaledd mewn cyfoeth a grym, ac am yr angen am fwy o gyfiawnder cymdeithasol. 

Cyfarfod Nesaf

Newyddion Diweddaraf

Cyfarfod CCQW Mehefin 2024 – CCQW Meeting June 2024

Bydd Cyfarfod nesaf Crynwyr Cymru - Quakers in Wales yn cael ei gynnal ar Mehefin 22ain, 2024 yn St Paul's Methodist Centre, Queens Road, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2NN o 11.00yb tan 16.00yp. Mae croeso cynnes i bawb. The next meeting of Crynwyr Cymru - Quakers in...

Crynwyr yn Eisteddfod Cenedlaethol Dwyfor Meirionydd (Fideo)

Wrth fynychu'r Eisteddfod ym Moduan blwyddyn yma, fe ffilmiodd aelodau Crynwyr Cymru fideo fyr. Dyma hi: https://vimeo.com/877895238/dda4c7fe28 Crynwyr ym Maes Eisteddfod Dwyfor Meirionnydd yn siarad am eu profiadau o Grynwriaeth

Adroddiad Cyfarfod CCQW – Hydref 2023 (Saesneg)

Sue Shreeve - Co-Clerk Mid Wales Area Meeting writes: Thirty-four Friends from all corners of Wales, representing our four Area meetings, joined this meeting by Zoom, at which we welcomed Carina Mundle-Garratt as the new Coordinator to her first meeting of CCQW. The...