Beth mae’r Crynwyr yn ei ddweud:
- Mae rhywbeth sanctaidd ynddom ni i gyd.
- Mae pawb yn gyfartal yng ngolwg Duw.
- Mae crefydd yn ymwneud â bywyd yn ei gyfanrwydd.
- Mewn tawelwch down o hyd i ymdeimlad dyfnach o bresenoldeb Duw.
- Mae gwir grefydd yn arwain at barchu’r ddaear a’r holl fywyd sydd arni.
- Mae pob unigolyn yn unigryw, yn werthfawr ac yn blentyn i Dduw.

Amdanon Ni
Down ynghyd i helpu’n gilydd i fod yn agored i’r ysbryd. Mae yna hen hanes i’r Crynwyr yng Nghymru a chroesawn bawb sy’n chwilio am fyd ble gall pawb ddilyn yr ysbryd a byw’n heddychlon. Ceisiwn gymdeithas deg sy’n cydnabod gwerth pob person.
Hanes y Crynwyr yng Nghymru
Cychwynodd yr hyn a adnabyddir fel Crynwriaeth yn ystod y dyddiau tywyll a thresigar tua diwedd rhyfeloedd cartref y 1640au. Roedd y wlad mewn helbul yn sgil digwyddiadau’r cyfnod, megis dienyddio’r Brenin Siarl 1af yn 1649. Roedd dadleuon lu am yr angen i’r eglwys ddiwygio; am natur a dulliau’r llywodraeth; am yr anghyfartaledd mewn cyfoeth a grym, ac am yr angen am fwy o gyfiawnder cymdeithasol.

Newyddion Diweddaraf
Cyfarfod Crynwyr Cymru, 22.10.22
Adroddiad gan Medi James, Cyfarfod Aberyswyth Rydym yn dal i gyfarfod ‘ar lein’ a gwych o beth yw hynny ein bod â ffasiwn dechnoleg i’n cadw mewn cysylltiad â’n gilydd. Roeddem yn griw o 28 am ran fwyaf o’r dydd tan 3 o’r gloch. Roedd y toriadau am baned a chinio i’w...
‘The Welsh lingo: learn to say read sing in 60mins’
Chwaer weithgaredd i'r gweithdy 'Un gwraidd o dan y canghennau' ar addoli mewn mwy nag un iaith, er nad yw'n hanfodol mynychu;r ddau i gael budd ohonynt. Cyfle i ddysgu ychydig am hanes ein hiaith a sut i ynganu Cymraeg drwy gyfrwng cerddi a chaneuon mewn ffordd...
‘Un gwraidd o dan y canghennau’ / ‘The same root under the branches’ – Awst 2il, 12:30pm
Gweithdy yn seiliedig ar brofiad Crynwyr yng Nghymru ar addoli mewn cyd-destun dwyieithog. Ein gobaith yw y bydd hyn yn cychwyn sgwrs ehangach ymysg Crynwyr ym Mhrydain, a thu hwnt, ar bwysigrwydd parchu a gwerthfawrogi pwysigrwydd ieithoedd mewn cyd-destun ysbrydol.