Amdanon ni

Beth mae’r Crynwyr yn ei ddweud:

  • Mae rhywbeth sanctaidd ynddom ni i gyd.
  • Mae pawb yn gyfartal yng ngolwg Duw.
  • Mae crefydd yn ymwneud â bywyd yn ei gyfanrwydd.
  • Mewn tawelwch down o hyd i ymdeimlad dyfnach o bresenoldeb Duw.
  • Mae gwir grefydd yn arwain at barchu’r ddaear a’r holl fywyd sydd arni.
  • Mae pob unigolyn yn unigryw, yn werthfawr ac yn blentyn i Dduw.

Pwy yw Crynwyr Cymru – Quakers in Wales (CCQW)?

Crynwyr Cymru yw’r sefydliad sydd yn tynnu Crynwyr sy’n byw yng Nghymru at ei gilydd. Mae’n gweithio gyda’r 4 cyfarfod rhanbarthol yng Nghymru a’r Gororau Deheuol. Mae fel rheol yn ymgynnull dair gwaith y flwyddyn i addoli ac i gynllunio’r gwaith. 

Mae gan Grynwyr Cymru gyfrifoldebau ar ran ‘Britain Yearly Meeting’, i gynrychioli a hyrwyddo bywyd a thystiolaeth y Crynwyr yng Nghymru. Mae’r cyfrifoldebau yma’n cynnwys apwyntio cyfeillion i wasanaethu ar Bwyllgorau a Grwpiau megis Cytûn; cyfathrebu gyda’r Senedd a’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru, yn ogystal â chynnal perthnasau gyda chyrff cyhoeddus ac elusennau eraill yng Nghymru, yn enwedig cyrff sydd â diddordeb mewn cyfiawnder cymdeithasol, heddwch a gwaith rhyngffydd. Mae hefyd yn cynrychioli’r Crynwyr yng Nghymru yn ‘Britain Yearly Meeting’ pan fo angen. 

Mae Crynwyr Cymru yn gweithredu’n ddwyieithog, ac yn darparu dogfennau’n ddwyieithog fel rheol, yn ogystal â threfnu cyfieithu ar y pryd yn y cyfarfodydd. Gallwch gysylltu â ni drwy’r cyfeiriad ebost isod:

crynwyrcymru@gmail.com

 

Dewch i ddarganfod mwy am Grynwyr a Chrynwriaeth: