Gwreiddiau ein Ffydd

Crefydd a ddatblygodd ym Mhrydain yn ystod yr 17eg ganrif yw Crynwriaeth. Yn sgil diwedd y Rhyfel Gartref, roedd nifer fawr o bobl yn deisyfu newid radical mewn crefydd, gwelidyddiaeth a chymdeithas, a ganwyd ein ffydd Grynwrol yn y cyd-destun radical yma.

Roedd y Crynwr cyntaf, George Fox, yn grediniol y gallai pob unigolyn ffurfio perthynas uniongyrchol gyda Duw, heb fod angen pregethwr na Beibl i’n harwain, ac fod elfen o Dduw yn bodoli ym mhob un ohonom. Adnabyddir yr elfen ddwyfol hon sydd ym mhob unigolyn fel ‘y goleuni mewnol’ (er fod nifer o dermau eraill hefyd), ac mae pob Crynwr yn ceisio dyfnhau eu cysylltiad gyda’r goleuni hwn, er mwyn canfod arweiniad ysbrydol wrth i ni droedio llwybrau bywyd. O gydnabod fod elfen ddwyfol ym mhawb, mae Crynwyr yn ceisio’u gorau i weld yr elfen hon mewn pobl eraill, ac ystyriwn fod pob bod dynol yn gydradd ac felly’n haeddu parch a thriniaeth gyfartal. Y mewnwelediad yma gan Fox a arweiniodd at ddatblygiad tystiolaethau’r Crynwyr – Heddwch; Gwirionedd a didwylledd; Cydraddoldeb a chyfiawnder a Symlrwydd a Chynaliadwyedd. Darllenwch fwy am ein tystiolaethau, a sut mae Crynwyr yn byw ein ffydd, yma. 

Mae gwreiddiau Crynwriaeth mewn Cristnogaeth, ond doedd y Crynwyr cynnar ddim yn gweld yr angen am adeiladau, defodau, na dyddiau sanctaidd penodol i ymarfer eu Crefydd. Yn hytrach, credont y dylai crefydd fod yn rhywbeth y mae pobl yn ei fyw a’i weithredu drwy’r amser yn eu bywydau bob dydd. Roedd syniadau fel hyn yn chwyldroadol yn eu cyfnod, a chafodd nifer o Grynwyr eu herlid a’u carcharu am y daliadau hyn. Gallwch ddarllen mwy am ddatblygiad Crynwriaeth yng Nghymru, yma a darllen yn ehangach am hanes y Crynwyr yma. Rydym yn credu nad oes ‘un ffordd gywir’ i gysylltu â’r goleuni mewnol, ac o’r herwydd maent yn parchu, ac yn agored i, ddysgeidiaethau o grefyddau a thraddodiadau eraill, yn ogystal â Christnogaeth.

Er nad oes gan y Crynwyr lyfr sanctaidd, mae ganddom lyfr disgyblaeth a elwir yn ‘Ffydd ac Arferion y Crynwyr’ (Quaker Faith and Practice). Er mwyn adlewyrchu ehangder ffydd y Crynwyr, mae’r llyfr hwn yn gasgliad o dystiolaethau a phrofiadau personol Cyfeillion ym Mhrydain. Ystyrir y llyfr hwn fel dogfen fyw a deinamig sydd yn newid o bryd i’w gilydd er mwyn adlewyrchu’r newidiadau yn ein byd, a sut y mae Crynwyr yn ymateb i’r newidiadau hynny. Mae bellach ar ei 5ed fersiwn, gyda’r 6ed ar waith ar hyn o bryd.

Gellir darllen y llyfr ar-lein, ac mae modd cael fersiwn Cymraeg (mewn print ac ar-lein) o’r llyfr bach, ‘Cynghorion a Holiadau’.

Crefydd a ddatblygodd ym Mhrydain yn ystod yr 17eg ganrif yw Crynwriaeth. Yn sgil diwedd y Rhyfel Gartref, roedd nifer fawr o bobl yn deisyfu newid radical mewn crefydd, gwelidyddiaeth a chymdeithas, a ganwyd ein ffydd Grynwrol yn y cyd-destun radical yma.

Roedd y Crynwr cyntaf, George Fox, yn grediniol y gallai pob unigolyn ffurfio perthynas uniongyrchol gyda Duw, heb fod angen pregethwr na Beibl i’n harwain, ac fod elfen o Dduw yn bodoli ym mhob un ohonom. Adnabyddir yr elfen ddwyfol hon sydd ym mhob unigolyn fel ‘y goleuni mewnol’ (er fod nifer o dermau eraill hefyd), ac mae pob Crynwr yn ceisio dyfnhau eu cysylltiad gyda’r goleuni hwn, er mwyn canfod arweiniad ysbrydol wrth i ni droedio llwybrau bywyd. O gydnabod fod elfen ddwyfol ym mhawb, mae Crynwyr yn ceisio’u gorau i weld yr elfen hon mewn pobl eraill, ac ystyriwn fod pob bod dynol yn gydradd ac felly’n haeddu parch a thriniaeth gyfartal.

Mae gwreiddiau Crynwriaeth mewn Cristnogaeth, ond doedd y Crynwyr cynnar ddim yn gweld yr angen am adeiladau, defodau, na dyddiau sanctaidd penodol i ymarfer eu Crefydd. Yn hytrach, credont y dylai crefydd fod yn rhywbeth y mae pobl yn ei fyw a’i weithredu drwy’r amser yn eu bywydau bob dydd. Roedd syniadau fel hyn yn chwyldroadol yn eu cyfnod, a chafodd nifer o Grynwyr eu herlid a’u carcharu am y daliadau hyn. Gallwch ddarllen mwy am hanes y Crynwyr yma, a datblygiad Crynwriaeth yng Nghymru, yma. Mae Crynwyr yn credu nad oes ‘un ffordd gywir’ i gysylltu â’r goleuni mewnol, ac o’r herwydd maent yn parchu, ac yn agored i, ddysgeidiaethau o grefyddau a thraddodiadau eraill, yn ogystal â Christnogaeth.