Hanes y Crynwyr yng Nghymru

Y Dyddiau Cynnar

Cychwynodd yr hyn a adnabyddir fel Crynwriaeth yn ystod y dyddiau tywyll a thresigar tua diwedd rhyfeloedd cartref y 1640au. Roedd y wlad mewn helbul yn sgil digwyddiadau’r cyfnod, megis dienyddio’r Brenin Siarl 1af yn 1649. Roedd dadleuon lu am yr angen i’r eglwys ddiwygio; am natur a dulliau’r llywodraeth; am yr anghyfartaledd mewn cyfoeth a grym, ac am yr angen am fwy o gyfiawnder cymdeithasol. Roedd sôn hefyd y gallai Dduw ymyrryd yn ebrwydd mewn modd apocalyptaidd i ddatrys y cyfan.

Roedd rhyddid cydwybod, a’r hawl i addoli, yn bwysig i bobl a geisiai wirionedd crefyddol drostynt eu hunain, ac a ddymunai weld newid cadarnhaol yn y byd. Roedd Crynwyr yn eu mysg. O dan arweinyddiaeth George Fox, y Crynwyr oedd y grŵp crefyddol anghydffurfiol mwyaf radical yn ystod ail hanner yr 17ganrif, ac fe’u herlidiwyd yn ffyrnig oherwydd eu ffydd.

© Britain Yearly Meeting

© Britain Yearly Meeting

https://www.quakersintheworld.org/quakers-in-action/12/George-Fox

https://www.georgefox.edu/about/history/quakers.html

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Yr enw Crynwyr (Quakers yn Saesneg)

Eraill a fathodd yr enw ‘Quakers’ i gychwyn. Roedd yn air dirmygus, yn tarddu, mae’n debyg o’r crynu a’r tywalltiadau emosiynol a welwyd yn y cyrddau addoli cynharaf. Hefyd, defnyddiwyd y gair ‘Quaker’ beth amser ynghynt i ddisgrifio enwadwyr eraill y tu allan i Brydain. Ond y gair a ddefnyddiai’r Crynwyr ymysg ei gilydd oedd ‘Cyfeillion’, a sonient am fod yn ‘Gyfeillion yn y Gwirionedd’. Fel yn hanes ambell i lysenw, daeth yr enw ‘Crynwyr’ yn annwyl gan y Cyfeillion eu hunain. Ys dywed George Fox, cymeradwyai’r Beibl grynu mewn parch o flaen neges Duw (Eseia 66:2).

© Britain Yearly Meeting
Dyfodiad y Crynwyr i Gymru
Mae Cyfeillion / Crynwyr yng Nghymru er 1653. Daeth rhai o’r Cymry cyntaf at y Crynwyr o enwadau eraill oedd eisoes yn gobeithio am ddeffroad ysbrydol a diwygiadau crefyddol a chymdeithasol. I raddau, yr oedd anghydffurfwyr crefyddol Cymru, megis Walter Cradoc o Lanfaches, Morgan Llwyd o Wrecsam a William Erbury o Gaerdydd, wedi braenaru’r tir ar gyfer dysgeidiaeth y Crynwyr.

Yn 1652, afonwyd Sion ap Sion, un o gylch y pregethwr ac awdur dylanwadol, Morgan Llwyd, i ymchwilio i’r cyffro ynghylch Crynwriaeth oedd, erbyn hynny, wedi dod i’r amlwg. https://biography.wales/article/s-JOHN-APJ-1625

Yng Ngogledd Lloegr, bu iddo gyfarfod â George Fox, a dychwel i Gymru wedi’i lwyr argyhoeddi ynglyn a neges y Crynwyr. Sion ap Sion oedd y Crynwr cyntaf yng Nghymru. Bu’n brysur yn lledaenu’r  neges hyd a lled y gogledd, a phan ddaeth George Fox ei hun i ymweld â Chymru, Sion ap Sion a safai yn ei ymyl i gyfieithu ei eiriau ar gyfer y  gynulleidfa Gymraeg.

Yn Ne Cymru, Crynwyr o Loegr ddaeth a’r ddysgeidiaeth yno. Digwyddodd hyn flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1654. Roedd rhai o’r bobl a ddaeth yn Grynwyr yno yn ddilynwyr ffyddlon i William Erbery a fu farw ychydig ynghynt. Roedd Erbery yn Gymro ar ochr ei fam, ac adnabyddwyd ef fel pregethwr ac awdur radical.  Roedd aelodau o deulu Erbery ymysg y rhai a fu’n weithgar yn taenu dysgeidiaeth y Crynwyr hyd ardaloedd y De.

© Britain Yearly Meeting
Credoau ac Arferion y Crynwyr

Nid oedd y Cyfeillion cynnar yn amau bod Duw yn creu newid yn ystod cyfnod eu bywydau, a’u bod hwythau wedi derbyn galwad i fod yn ran ohono. “Mae’r Iesu ei hun  wedi dod i ddysgu ei bobl” meddai George Fox, gan gyfeirio’n gadarn at y profiad crefyddol uniongyrchol allai’r unigolyn a’r grwpiau addoli ei adnabod.  Yr oedd y syniad o ddatguddiad ysbrydol uniongyrchol yn un a heriai yr arferion mwyaf cysegredig, ac roedd credoau o’r fath yn dynodi diwedd ar ddefodau a chlerigwyr ordeinedig fel a welwyd mewn gwasanaethau crefyddol arferol. Roedd y Crynwyr yn grŵp lleyg, ac yn dal i fod felly ym Mhrydain; neu, ys dywed y Cyfeillion eu hunain, efallai, grŵp sy’n credu o ddifrif yng ngallu pob credadun i weinidogaethu.

O’r cychwyn cyntaf, roedd y pwyslais ar bwysigrwydd gwirionedd a symlrwydd. Credent y bygythid y gwirionedd gan y weithred o dyngu llw, oherwydd i’r Iesu ei hun wrthwynebu hynny, a hefyd, bod tyngu llw yn awgrymu bod mwy nag un safon o wirionedd. Roedd symlrwydd yn cynnwys gwisg, mewn cyfnod pan yr oedd rhai pobl yn yr ail ganrif ar bymtheg wedi dechrau gorwario a phwysleisio statws wrth wisgo’n grand. Taflodd y Crynwyr olwg hefyd ar hierarchiaeth cymdeithasol ac anghydraddoldeb. Roedd hyn yn amlwg yn eu hiaith. Defnyddient ‘ti’ wrth gyfarch pawb yn ddi-wahan. Ni fyddent, chwaith, yn moesymgrymu na diosg cap. Gwrthodasant dalu degwm i gefnogi Eglwys y dymunent ei diwygio a gwrthodasant fynychu cyrddau addoli Anglicanaidd. Nid oedd ganddynt glerigwyr ac, ar ben hynny, byddai merched yn cael chwarae rhan gyhoeddus mewn cyrddau a gweithgareddau  Crynwrol.

Quakers and Women in Ministry

 

© Britain Yearly Meeting

Roedd rhai o’r pethau hyn yn synnu llawer o’u cyfoeswyr yn ddirfawr ond, ar yr un pryd, deallwyd mai pobl heddychlon oedd y Crynwyr, na fynnai gyfrannu, er enghraifft at gynnal byddinoedd.

Roeddent wedi datgan eu heddychiaeth yn nyddiau cynnar teyrnasiaeth Siarl II, wrth ddweud na fynnent ymarfogi dros yr un achos, crefyddol na seciwlar, gan y byddai hynny yn groes i ysbryd Crist. Mae creu a chynnal heddwch yn bwysig i’r Crynwyr byth ers hynny, ynghyd â chefnogaeth i wrthwynebwyr cydwybodol a wrthodasant fynd i ryfel.

© Britain Yearly Meeting

O’r pwyslais ar symlrwydd, cydraddoldeb, uniondeb a heddwch, tyfodd yr hyn a elwir yn ‘Dystiolaethau’r Cyfeillion’. Y tystiolaethau yw’r glud sy’n dal arferion y Crynwyr ynghyd, er eu bod yn esblygu’n naturiol dros amser wrth i oleuni newydd ymdarddu.

Mae’r pwyslais ar symlrwydd, cydraddoldeb a heddwch a ddaw law yn llaw â chyfiawnder, wedi arwain at bryder cyfredol Cyfeillion ynghylch cynaladwyedd a dyfodol ein planed.

Crynwyr Cymraeg ac Ymfudo

Yr oedd y Cyfeillion cynnar yn byw mewn cyfnod cythryblus dros ben, ac wedi i Siarl II adfer y frenhiniaeth yn 1660, dyfeiswyd cyfreithiau i sicrhau goruchafiaeth yr Eglwys Anglicanaidd ac i leddfu’r tuedd at anghydffurfiaeth gymdeithasol a chrefyddol. Bwriad y cyfrieithiau newydd (gan gynnwys Deddf y Crynwyr 1662) oedd i sicrhau ufudddod crefyddol ac i rwystro anghydffurfwyr rhag symud o le i le. Roedd cyrddau addoli amgen nawr yn anghyfreithlon, ond gwrthododd y Cyfeillion ildio. Yn hytrach, yng Nghymru fel ym mhobman arall, dioddefodd merched a dynion o Grynwyr y canlyniadau hegr a ddaeth yn sgil eu hanufuddod. Dioddefasant galedi economaidd o achos dirwyon a cholli eiddo; ymosodiadau corfforol; tarfu’n dreisgar ar eu cyrddau addoli, a chael eu harestio a’u carcharu, yn aml mewn amodau afiach a chiaidd.  Yn ystod y degawdau cyn y Deddf Goddefiad yn 1689, fe ddioddefodd y Crynwyr, fel grŵp crefyddol, yn fwy na dim un arall.

Hyn oll a barodd i rhai Crynwyr Cymreig ddewis ymfudo yn ystod y 1680au. Roedd cyfle i brynu tir ym Mhensylvania, ac i greu bywyd oedd yn rhydd o fygythiad erlidiaeth, a chreu math newydd o gymdeithas a allai fod, gobeithid, yn Gymraeg. Byddent yn ran o ‘Arbrawf Sanctaidd’ William Penn yn America.

Wedi'r Ail Ganrif ar Bymtheg

Fe grebachodd niferoedd y Crynwyr o ganlyniad i’r ymfudo, a bu i’r niferoedd hynny ostwng ymhellach byth mewn rhai ardaloedd drwy gydol y deunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gellid adnabod Crynwyr bryd hynny wrth eu gwisgoedd syml, eu dull o siarad a’r ffaith eu bod dim ond yn priodi ym mysg ei gilydd. Hyd yn oed i’r bobl a hoffai addoli mewn tawelwch gyda’r Crynwyr, ac a edmygai eu huniondeb, eu heddychiaeth a’u hymgyrchu dros ddiwygiad, yr oedd yr arferion ‘rhyfedd’ hyn yn peri iddynt beidio ag ymaelodi â’r Crynwyr. Yn ail hanner y 19eg, daeth yr arferion ‘rhyfedd’ i ben ac, yn ystod yr ugeinfed ganrif, tyfodd niferoedd y Crynwyr ryw ychydig yng Nghymru.

Ers 1653, mae’r Cyfeillion yn ran annatod o dirlun a chymdeithas Cymru. Mae eu mynwentydd a mannau addoli (a elwir yn Dai Cwrdd) yn nodi eu presenoldeb dros y canrifoedd, a gadawsant eu hôl mewn sawl ffordd. Er enghraifft, bu iddynt chwarae rhan bwysig yn natblygiad diwydiant y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg: yn y diwydiannau glo, haearn, dur, porslen a mwy. Yn yr 20au a’r 30au o’r ugeinfed ganrif, crewyd gwaith gan Grynwyr mewn ardaloedd o’r De oedd yn dioddef caledi difrifol. Fe arweiniodd hyn at sefydlu Aneddiadau Addysgu a phrosiectau creu gwaith mewn llefydd fel Trealaw yn y Rhondda, Brynmawr, Dowlais (Merthyr Tydful) a Rhisca. Yn ystod yr unfed ganrif ar hugain, mae Crynwyr yn dal i chwarae rhan bwysig ym mywyd cymdeithasol a thirlun Cymru.

Agored i Bawb

Heddiw, er bod ein niferoedd yn fach o’u cymharu a’r enwadau mawr, mae mwy na dwbl nifer y Crynwyr yma heddiw nag yr oedd ar ddechrau’r Ugeinfed Ganrif.

Mae Cyrddau Addoli’r Cyfeillion, fel erioed, yn agored i bawb. Mae Crynwriaeth yn yr 21 Ganrif yn amrywiol o ran yr aelodaeth, ac o ran yr iaith, a’r ieithwedd grefyddol, y dewisir gan Gyfeillion i ddisgrifio’u llwybrau ysbrydol a’u hymrwymiad i’r ysbryd.

Mae’r hyn sy’n nodweddiadol o’r Crynwyr wedi parhau – sef y tawelwch sy’n caniatáu gofod ac amser i’r ysbryd weithio. Mae’n Tystiolaethau wedi parhau, a pharhau hefyd mae’r angen i fod yn agored i’r Ysbryd yn ystod cyfnod o addoli ac yn ein bywydau bob dydd; i ymateb i’r ‘hyn sydd o Dduw’ ym mhob person y down ar ei draws, ac i ymgysylltu â’r byd.

Rhestr Ddarllen

Os oes ganddoch chi ddiddordeb yn hanes y Crynwyr yng Nghymru, gall y rhestr ddarllen isod fod o ddiddordeb i chi.

Mae’n cynnig esiamplau o’r math o ffynhonnellau sydd ar gael.

Gellir dod o hyd i beth o hanes y Crynwyr yng Nghymru, boed yn hanes unigolion, gweithredu Crynwrol, diwydiant, adeiladau, mynwentydd a mwy, mewn erthyglau a gyhoeddwyd yng Nghyfnodolion cymdeithasau hanes trefi a siroedd Cymru. Mae rhai o’r rhain ar gael yn electroneg, e.e. drwy wasanaeth Cylchgronau Cymru’r Llyfrgell Genedlaethol.

Mae adnoddau helaeth i’w canfod yn Llyfrgell y Crynwyr, Friends House, Euston, Llundain (mae’r catalog ar gael ar-lein)

Archifau Morgannwg, Cofnodion y Crynwyr  a chasgliadau archifau eraill yng Nghymru

The Quaker Family History Society

A’r cyfnodolyn academaidd, Quaker Studies, sydd ar gael yma ac mae Quaker Studies yn gasgliad agored gydag embargo 3 blynedd.

Mae cyfrolau o’r Journal of the Friends Historical Society ar gael yma (ond efallai na fydd cyfrolau mwy diweddar wedi eu rhoi ar-lein eto).

 

Llyfrau

  1. Mardy Rees, A History of the Quakers in Wales and their Emigration to North America (W. Spurrell and Son, 1925). Llyfr o’i gyfnod sydd yn hen ffasiwn bellach, ond mae’n cynnwys llawer o wybodaeth ddiddorol.
  2. Richard Jones, Crynwyr Bore Cymru  1653-1699 (William Jones a’i Feibion, 1931) – yr unig lyfr ar y pwnc i gael ei ysgrifennu yn Gymraeg.
  3.  Richard C. Allen, Quaker Communities in Early Modern Wales: From Resistance to Respectability (Cardiff: University of Wales Press, 2007).
  4.  Owain Gethin Evans, Benign Neglect. The Quakers and Wales 1850-1914 (Bridge Books, 2014).
  5.  Barrie Naylor, Quakers in the Rhondda 1926-1986 (Maes yr Haf Trust, 1986) – ynglŷn â gwaith y Crynwyr gyda phobl ddi-waith yn ystod y dirwasgiad.
  6.  Christine Trevett, Quaker Women Prophets in England and Wales, 1650-1700  (Llambed: Mellen, 2000).

 

ESIAMPLAU O ERTHYGLAU, LLYFRAU BACH ayb.

Bibliography of Quaker literature in the English language relating to Wales”, Journal of the Welsh Bibliographical Society, 1, no 7.

Geraint H. Jenkins,  “Quaker and anti Quaker Literature in Welsh from the Restoration to Methodism‘, Welsh History Review 7 (1974), 403-426

Celebrating William Penn’s vision” (ynglŷn â’r Cymry cyntaf i setlo ym Mhensylfania).

Peter Adamson a Peter Crew (eds), Diaries and Journal of John Kelsall,

Richard Allen, “Mocked, scoffed, persecuted, and made a gazeing stock”:  The resistance of the Religious Society of Friends (Quakers) in post-Toleration South-East Wales c.1689–1836’ Cycnos vol 19/1 (Résistances), 2008.

In Search of a New Jerusalem: A Preliminary Investigation into the Causes and Impact of Welsh Quaker Emigration to Pennsylvania c. 1660-1750“, Quaker Studies 9/1 (2005), 31-53

“Nantuckett Quakers and the Milford Haven Whaling Industry, c. 1791-1821′, Quaker Studies 15/1 (2010), 6-31.

A.H. Dodd, “The Background of the Welsh Quaker Migration to Pennsylvania”,  Journal of the Merioneth Historical and Record Society, 3  part ii (1958), pp.111-127

Gethin Evans, “Cymru: concern, conscience and caution: Quaker cameos in Welsh history, Journal of the Friends Historical Society, 69 (2018), pp. 3-24.

Stephen Griffith, A History of Quakers in Pembrokeshire (Milford Haven Friends’ Meeting,1990).

Geraint H. Jenkins, “The Friends (Quakers) of Montgomeryshire in the Heroic AgeThe Montgomeryshire Collections 76 (1988), pp. 17-30.

Thomas Wynne 1627-1692, Crynwr, Heddychwr a chyfaill William Penn,  Pwyllgor Cymreig y Crynwyr, 1992

Richard Davies, Hanes Arhyhoeddiad, Trafferthion, Gwasanaeth a theithiau yr hen was hwnnw o eiddo yr Arglwydd, Richard Davies: (Llundain: H Hughes,1840).

An account of the convincement, exercises, services and travels of that ancient servant of the Lord Richard Davies (Printed and sold by J. Sowle, in White-Hart-Court in Gracious-Street, London 1710).

R T Jenkins, “Y Crynwyr ym Meirion”, yn Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn, (Robert Evans a’i Fab, 1937),  tud 26-33

“John Kelsall yn Sir Gaernarfon ac yn Môn”, Trafodion Hanes Sir Gaernarfon, vol 2 (1940), 71-74

Harry Gwyn Jones, “Dyddiau Olaf y Crynwyr yng Nghymru“, Y Traethodydd, 1939 Cyfrol 7 78-87

T G Jones, “Parish of Meifod: Sketch of the History of Nonconformity therein”, Montgomeryshire Collections, vol xi, 1878, 87-123

J Lloyd, “The Quakers of Cardiganshire“, Cardiganshire Antiquarian Society, vol 1, no 2, 1912

Gethin Evans, “The Quakers in Cardiganshire”, Ceredigion, vol xvi, no 3, 17-62

Trevor MacphersonA Measure of Grace: Quakers in Radnorshire”, The Transactions of the Radnorshire Society, 69 (1999), pp. 9-33.

Friends in Radnorshire: A Brief History of the Quakers, Verzon Booke, nd

Ronald Morris, “Quakerism in West Montgomeryshire”, Montgomeryshire Collection, vol 56, 45-65

Llanwyddyn Quakers“, Montgomeryshire Collections, Vol 66, 1978,46-59

The Dolobran Family in Religion and Industry in Montgomeryshire“, Montgomeryshire Collections, vol 56, 1959, 124-147

W.G. Norris, “John ap John and early Records of Friends in Wales“, Journal of the Friends Historical Society.

Bob Owen,  “Hen Grynwyr Llyn”, Trafodion Hanes Sir Gaernarfon vol 2 (1940), 71-74

Howard Paddock, “John ap John – the Mysterious Quaker of Rhyddallt“, in Plas Kynaston Canal Group

David Painting, “Swansea and the abolition of the Slave Trade” Swansea History Journal 15 (2007), pp. 10-18

Ellis Pugh, Salutations to the Britons, Pennsylvania, 1727 – a translation from the Welsh of Annerch i’r Cymry (the first book published in Welsh in the USA)

Gomer Morgan Roberts, “Y Crynwyr” yn Hanes Plwyf Llandybie (Gwasg Prifysgol Cymru, 1939), 158-162

A Grace Roberts, “The Ruthin Quakers“, The Welsh Outlook, June 1925, 160-16

David Salmon, “The Quakers of Pembrokeshire”, Historical Society of West Wales Transactions, vol ix, 1923, 1-32

“The Pembrokeshire Quakers’ Monthly Meeting”, West Wales Historical Records, vol xii, 1927 1-26

A R Lewis Saul, “Cloddiau Cochion and the Welsh Quakers“, Montgomeryshire Collections, 1958, vol 55

Christine Trevett, “‘Not fit to be printed’: the Welsh, the Women and the Second Day’s Morning Meeting”, Journal of the Friends Historical Society 59 (2001), pp. 115-44.

‘Who was the real Lydia Fell? Quakers’ Yard 1699’, Merthyr Historian 23 (2012),  pp. 57-69.

“Ann Taylor. A Quaker girlhood in Merthyr Tydfil  (1891-1913) and what she didn’t say”,  Merthyr Historian 29 (2018), pp. 122-141.

“Idiot”: questions around early Quaker identity in light of a legal dispute”,  Quaker Studies  22/2 (2017), 11-42.

Fay Williams, “Glamorgan Quakers 1654-1900”, Morgannwg Vol. 5 1961, 49-73.

Gwyn Williams: “Crynwyr Cynnar Cymru” yn Y Gair a’r Genedl: Cyfrol dyrnged, Ty John Penry, 1986

“The Quakers in Merioneth during the seventeenth century”, Journal of the Merioneth Historical and Record Society, vol viii, part ii  1978, 122-156  and vol viii, part iii, 1979, 312-342

 

Crynwyr yng Nghymru a’r Mudiad Heddwch

Richard Allen: “An Indefatigable Philanthropist“:Joseph Tregelles Price (1784–1854) of Neath, Wales

“‘Providing a Moral Compass for British People’: The Work of Joseph Tregelles, Evan Rees and The Herald of Peace“, Journal of the Friends Historical Society, 67/1 (2016), pp. 3-15

Euros Bowen, “Waldo a Chrynwriaeth”, Y Traethodydd  –  Cyf. CXXVI (538-540) 1971  247-255 (on the Quaker poet and pacifist Waldo Williams).

Gwynfor Evans, “HEDDYCHIAETH GRISTNOGOL YNG NGHYMRU” (cyhoeddwyd gan Gymdeithas y Cymod 1991),

Geraint H. Jenkins, “Rhyfel yr Oen: Y Mudiad Heddwch yng Nghymru 1653-1816”, in his Cadw Ty Mewn Cwmwl Tystion: Ysgrifau Hanesyddol ar Grefydd a  Diwylliant (Llandysul: Gomer, 1990).

The Early Peace Testimony in Wales Llafur vol. 4/ 2 (1975), pp. 10–19.

Gethin Evans, “Quakers in Wales and the First World War”, Quaker Studies, vol 21, issue 2, Dec 2016, 193-212.

 

Crynwyr a’r iaith Gymraeg:

Gethin Evans: ‘Atgof Diniwed – Crynwriaeth, Cymru a Chymrectod, Y Traethodydd, Ebrill 2013.

John Edward Southall: Quaker and Welshman”, Journal of the Friends Historical Society, 67/1 (2016), pp. 16-34.

 

Arall

Ar ffurf nofelau ond wedi’u hymchwilio’n dda, mae ysgrifau Marian Eames, Cymraeg a Saesneg, yn trafod Crynwyr yn ardal Dolgellau o’r 17eg ganrif ac ymfudo’

Y Stafell Ddirgel , Llandysul: Gwasg Gomer 1998 (original 1969)

The Secret Room, Llandysul:  Gomer Press 1995 a Y Rhandir Mwyn, Christopher Davies Publishers, 1972

Fair Wilderness, Corgi books, 1987

 

Prosiect creu dodrefn Brynmawr

http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/rhagor/erthygl/dodrefnBrynmawr1929-40 a https://museum.wales/blog/2007-04-23/The-Brynmawr-Experiment-1929-40/ 

M., E.& D. Wiliam, Celfi Brynmawr: Arbrawf Cymdeithasol y Crynwyr 1928-40 (Gwasg Carreg Gwalch, 2010) ac yn Saesneg Brynmawr Furniture Makers: a Quaker Initiative 1929-1940 (Gwasg Carreg Gwalch 2012).

 

Canolfan Treftadaeth y Crynwyr

http://www.gwynedd.gov.uk/ Canolfan Treftadaeth y Crynwyr

 

Gan Gyfeillion yng Nghymru heddiw, yn eu geiriau eu hunain:

Y Ffordd Dawel? The Quiet Way? (yn Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg) –  profiadau 5 o Grynwyr.

Tua’r Tarddiad: Crynwyr yng Nghymru, Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru, 2014

a

Towards the Source: Quakers in Wales, Meeting of Friends in Wales, 2014

(mae’r fersiwn Saesneg yn bartner i’r gyfrol Gymraeg, ond nid yw’n gyfieithiad ohoni).