Adnabyddir Crynwriaeth yn aml fel ‘y ffordd dawel’. Mae hyn am ein bod yn eistedd mewn tawelwch yn ein cyfarfodydd addoli. Does neb yn pregethu nac yn arwain ein cyfarfodydd, a chyfeiriwn at ein gilydd fel Cyfeillion er mwyn creu naws llai ffurfiol, a dangos ein bod i gyd yn gydradd â’n gilydd. Drwy ymgynnull mewn tawelwch, rydym yn helpu ein gilydd i fod yn agored i’r ysbryd, neu’r goleuni, sydd y tu mewn i bob un ohonom. Er nad oes neb yn pregethu, bydd unigolyn weithiau yn siarad, os y bydd ysbryd y cyfarfod yn eu tywys i wneud hynny.
Gwyliwch y fideos isod i glywed mwy am brofiad uniongyrchol rhai Crynwyr yng Nghymru o’r ‘ffordd dawel’.