Cydraddoldeb a chyfiawnder

Wrth ymgyrchu dros hawliau lleiafrifoedd, y Crynwyr oedd y grŵp ffydd cyntaf ym Mhrydain i gydnabod priodas o’r un rhyw, ac yma yn ein cymdeithas ddwyieithog yng Nghymru, mae cydraddoldeb ieithyddol hefyd yn bwysig iawn i ni. Mae Cyfarfodydd y Cyfeillion yng Nghymru yn ceisio creu awyrgylch sydd yn barchus ac yn groesawgar tuag at siaradwyr pob iaith, yn ogystal a thuag at bobl o amrywiol gefndiroedd, crefydd, hil a rhyw. 

Rhwng y 17eg ganrif a’r 19eg ganrif, roedd Crynwyr yn flaenllaw iawn yn yr ymgyrch dros diddymu caethwasiaeth. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod hefyd y ffaith bod yna Grynwyr a oedd yn ymwneud â’r fasnach gaethweision a elwodd o lafur pobl. Mae Crynwyr heddiw yn cydnabod bod llawer ohonom yn dal i elwa o’n etifeddiaeth o gyfoeth a braint, ac rydym yn chwilio am, ac yn trafod, ffyrdd o unioni niwed y gorffennol a gweithio dros gyfiawnder hiliol a hinsawdd yn y presennol. Am fwy o wybodaeth, gweler y dudalen ar iawndaliadau ar wefan y Crynwyr ym Mhrydain.

Dyma brofiad Ruth, cyfaill o Ogledd Cymru sydd wedi gweithio fel Caplan Crynwrol mewn carchardai.

Mae Crynwyr wastad wedi cefnogi carcharorion ac wedi ymgyrchu dros ddiwygio’r system gyfiawnder. Mae gwreiddiau’r gwaith yma i’w canfod ymysg gwreiddiau Crynwriaeth fel crefydd, ac mae’n waith sy’n parhau heddiw.

‘Byddwch yn batrymau, yn esiamplau yn y gwledydd, lleoedd, ynysoedd a’r cenhedloedd oll, i ba le bynnag y deloch; fel y byddo eich ymarweddiad a’ch bywyd yn bregeth ymhlith pobl o bob math, ac yn llefaru wrthynt. Felly y derfydd i chwi deithio drwy’r byd yn siriol, gan ymateb i’r hyn sydd o Dduw ym mhob dyn.’

 

Ysgrifennwyd yr uchod gan garcharor yng ngharachar Launceston, Cernyw ym 1656. Enw’r carcharor oedd George Fox, sylfaenydd y Crynwyr.

Derbyniais y neges yma gan garcharor yng ngharchar Berwyn, Wrecsam ym 2017. Mae’r dyn yma bellach yn rhydd ac yn trio byw bywyd da.

“One day a mate asked me if I wanted to come along to a Quaker group. I asked, ‘what’s it about?’ and was told it’s relaxing and you get a cup of tea and biscuits. I was sold, and attended.

WOW! That session was out of this world for me, and I’ll tell you why – because the impact, for me, is that it has changed my direction for life, pointed me in the right direction, and given me faith for humanity.

It felt like I was connected to everyone else’s energy and was transported somewhere brighter than the dark hole I had been in for ages. I was excited in my mind. My thoughts were reorganised and didn’t feel like problems anymore. I felt a closeness I had not felt before to the visitors and men in the room. My paranoia dissipated and I felt 100% positivity for all in that room.

There is so much I can’t describe or put into words, but I know that for the rest of my life I’m a Quaker and a Friend.”