Gwirionedd a Didwylledd

Mae Crynwyr yn ceisio byw yn ôl y gwirionedd dyfnaf rydyn ni’n ei ddirnad, ac rydyn ni’n ymgysylltu â’r gwirionedd hwn yn ystod llonyddwch ein haddoliad. Ceisiwn fynegi y gwirionedd bob amser, a chyda pawb y down ar eu traws, gan gynnwys gyda phobl sydd mewn safleoedd pwerus yn ein cymunedau a’n byd. Wrth i ni ein hunain geisio byw ein bywydau gyda gwirionedd a didwylledd, disgwyliwn i’r un gwerthoedd fod yn amlwg ymysg arweinwyr ein cymdeithas.

Os hoffech chi ddysgu mwy am sut mae Crynwyr yn byw eu ffydd, mae’r podlediad Quaker Talks ar gael i glywed mwy am y ffordd mae Crynwyr yn meddwl am, ac yn gweithredu dros, amryw o faterion o bwys – e.e. militariaeth, mewnfudo, Israel a Phalesteina, Duw, rhiantu a a llawer mwy…