Trafodaeth arbennig ar Zoom, Chwefror 17eg, 7pm

Edwina Peart, BYM

Mae Edwina Peart yn gweithio fel Cydlynydd Amrywiaeth a Chynwysoldeb i’r Crynwyr ym Mhrydain. Byddwn yn cael y fraint o rannu cwmni Edwina yng nghyfarfod busnes nesaf Crynwyr Cymru (CCQW) ar Chwefror 25ain pan y daw atom i drafod ei gwaith a materion hiliaeth, cynwysoldeb ac amrywiaeth yng nghyd-destun y Crynwyr.

Fel paratoad ar gyfer sgwrs Edwina, gwahoddwn Gyfeillion i noson arbennig i drafod podlediad mae Edwina eisoes wedi ei recordio ar hiliaeth a reparations. Dyma ddolen i wrando ar y podlediad: https://soundcloud.com/qwitness/on-reparations-what-are-reparations

Wedi i Gyfeillion gael cyfle i wrando, down at ein gilydd ar Zoom ar nos Wener, Chwefror 17eg am 7pm i drafod y cynnwys, gan obeithio y bydd hyn yn baratoad da a difyr i ni allu gwneud y mwyaf o gwmbni Edwina ar y 25ain. Bydd Jane Harries a Laura Wyn (Karadog) yn hwyluso’r sesiwn drafod ar nos Wener 17eg. Plis ebostiwch Laura os hoffech dderbyn y ddolen Zoom ar gyfer y drafodaeth hon – crynwyrcymru@gmail.com

Dyma fwy o wybodaeth am Edwina a’i swydd – https://www.woodbrooke.org.uk/people/edwina-peart/

A hefyd dolen i erthygl a ysgrifennwyd yn gymharol ddiweddar gan Edwina ar Grynwyr, amrywiaeth a chynwysoldeb – https://www.quaker.org.uk/blog/inclusion-and-diversity-reflecting-on-our-journey-so-far

Gobeithio y cawn eich cwmni ar nos Wener, Chwefror 17eg.