Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Crynwyr Prydain yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr yn Euston, Llundain, rhwng Ebrill 28ain a Mai 1af eleni. Roedd hi’n benwythnos braf a heulog ym Mhrifddinas Lloegr, a braf oedd cweld cymaint o gyfeillion yn cwrdd wyneb yn wyneb eleni, yn ogystal â’r cannoedd a ymunodd ar-lein.

Cliciwch yma i ddarllen epistol y cyfarfod eleni.

Bydd Crynwyr Prydain yn arbrofi gyda fformat y cyfarfod blynyddol yn 2024 ac yn ei gynnal dros benwythnos hir 26-30 o Orffennaf. Cyhoeddir newyddion am y cyfarod blynyddol nesaf ar y dudalen hon, ble y gallwch hefyd weld mwy o wybodaeth a dogfennau o gyfarfod blynyddol 2023.