Adroddiad gan Medi James, Cyfarfod Aberyswyth

Rydym yn dal i gyfarfod ‘ar lein’ a gwych o beth yw hynny ein bod â ffasiwn dechnoleg i’n cadw mewn cysylltiad â’n gilydd. Roeddem yn griw o 28 am ran fwyaf o’r dydd tan 3 o’r gloch. Roedd y toriadau am baned a chinio i’w croesawu’n fawr gan fod cymaint i’w ddarllen a’i dreulio yn sesiwn y bore. Darllen y papurau ymlaen llaw sy’n bwysig. Wedi dweud hynny dwi’n dal i’w chael yn anodd darllen cymaint o bapurau o’r sgrin a bellach dwi ddim yn argraffu dogfennau mewn swmp mawr. Dyfalbarhau â’r newidiadau sy’ raid.

Yn y drefn arferol fe dderbyniwyd a nodwyd adroddiadau amrywiol. Un sy’n werth bod yn gyffrous yn ei gylch ydy’r datblygiadau posib yn Nhŷ Cwrdd Caerdydd. Gwelsom y gwaith trylwyr o gyflawni ein cyllideb blynyddol a’r strategaeth cyfathrebu newydd dan ofal Gyda’n Gilydd. Gofynnir i bawb gynnig ymatebion i‘r agweddau ffres yma gan griw Gyda’n Gilydd.

Wrth baratoi a darllen yr amrywiol bapurau, ym mhob cymdeithas dim just ‘ni’, fe ddaw materion dwys a difrifol i’w gwyntyllu a’u trafod ble mae angen i bawb gael y cyfle i ‘ddweud ei dweud.’ Dwi’n gweld hyn yn anoddach mewn cyfarfod zoom gan nad ydym gyda’n gilydd mewn ystafell. Mae dod i adnabod cyfeillion a deall o ble mae eu sylwadau’n dod yn anoddach i’w dirnad. Edrychaf ymlaen yn fawr i’r dydd pan fyddwn yn cyd-gyfarfod eto, er efallai dim bob tro mewn un lleoliad. Mae cyd-gyfarfod, cyd-fwyta ac ymgomi mor bwysig i ni ddod i adnabod a deall ein gilydd. Roedd y term ‘gyda’n gilydd’ yn thema gyson yn ystod y dydd a falle mai ychwanegu ‘symud ymlaen’ at hwn y dylem. Symud Ymlaen Gyda’n Gilydd.

Fe nodwyd siom nad oedd neb o Gwrdd y Gororau yn bresennol. Roedd clywed bod 66% o Gyfeillion yng Nghymru yn dal swyddi o fewn Crynwyr Cymru yn syfrdanol. Does ryfedd fod difrawder sy’n deillio o flinder yn dod heibio ni hyd yn oed o fewn Cymdeithas y Cyfeillion. Dwi’n croesawu’n fawr ac yn ddiolchgar ein bod ni yng Nghymru, dan arweiniad cadarn criw Symud Ymlaen, yn wynebu’r her fawr anodd yma. Bydd rhaid i ni fynegi ein ‘Ie’, neu’ Dim Diolch’ ym mis Ionawr 2023 os am gychwyn ar y gwaith cyfreithiol o Symud Ymlaen.

Wrth gwrs dydy lleihau rôl wirfoddol o fewn Crynwyr Cymru ddim yn golygu bod rhywun yn diosg pob cyfrifoldeb. Fe ofynnwyd i ni i gyd ystyried beth yw’n sgiliau a’n maes diddordeb. Mae a bydd angen cyfranwyr o bob math ac o bob maes. Gofynnwyd i ni i gyd ledaenu’r neges hon o fewn ein cyrddau fel bod gennym fas data o sgiliau perthnasol i’n gwaith.

Yn sesiwn y prynhawn cawsom sgwrs eang a diddorol gan Ameerah Mai ameerhamai@wcia.org sy’n Gydlynydd Academi Heddwch Cymru ac yn gweithio o’r Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Yr Academi Heddwch Cymru, dan gadeiryddiaeth Dr Rowan Williams, yw sefydliad heddwch cyntaf Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Ei nod yw ehangu traddodiad cryf Cymru o greu heddwch a hybu heddwch. Yn sicr fe ddangosodd Ameerah  ystod eang o’i gwaith a’i gobeithion hi am y datblygiadau.

Mae’r Academi yn anelu at weld heddwch yn cael ei adlewyrchu ym mholisïau a strategaethau

perthnasol Llywodraeth Cymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn ogystal â hybu i ffurfio Grŵp Trawsbleidiol ar Heddwch a Chymod.

Gofynnir i ni holi sut ydym yn diffinio heddwch ac yn ei drosi i’n bywydau bob dydd? Mae hyd yn oed y cwestiwn hawliau dynol wedi ei drafod ganddynt mewn cyfarfod a Chymdeithas pêl-droed Cymru, wrth iddynt baratoi i fynd a’r tîm cenedlaethol i Gwpan y Byd yn Qatar.

Ar y gorwel yn ogystal â chynnal fforwm agored gyda’r mudiad heddwch yn flynyddol mae paratoadau i ddathlu canmlwyddiant (1923 – 24) Deiseb Heddwch y Merched.

Agorodd Ammeerah y ddeialog â ni Crynwyr Cymru a holi sut allwn ni gynorthwyo. Maent wastad yn agored i syniadau newydd ac awgrymiadau ar bynciau i’w ymchwilio. Un sydd ar ben y rhestr yw Addysg Heddwch yn enwedig o fewn Addysg Uwch.

Felly dyma’r alwad i ni. Os cawn symud ymlaen gyda llai o bwysau gweinyddol ar ysgwyddau’r 66% ohonom gallwn fynd amdani a chofio ein “cyfrifoldeb fel dinesydd am reolaeth materion lleol, cenedlaethol a rhyng-genedlaethol. Peidiwch ag arbed yr amser a’r ymdrech y gall eich ymrwymiad ei hawlio.” (Cynghorion a holiadau 34)