Strwythur y Crynwyr yng Nghymru
Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn mynychu cyfarfod Crynwyr, byddem yn argymell i chi gysylltu â’r cyfarfod sydd yn fwyaf lleol i chi yn gyntaf. Er mwyn darganfod ble mae eich cyfarfod agosaf, cliciwch ar y rhanbarth berthnasol isod.
Mae pob Cyfarfod Crynwyr Lleol yn aelod o Gyfarfod Crynwyr Rhanbarthol. Yng Nghymru, mae’r rhain wedi eu trefnu mewn 4 rhanbarth – Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De Cymru, a’r Gororau Deheuol. Cliciwch ar y botymau isod i ddarganfod mwy am bob rhanbarth ac i ymweld â’u gwefannau.
Cyfarfod y Crynwyr yng Nghymru, a adnabyddir hefyd fel Crynwyr Cymru, yw’r sefydliad sydd yn tynnu Crynwyr sy’n byw yng Nghymru at ei gilydd. Mae’n gweithio gyda’r 4 cyfarfod rhanbarthol yng Nghymru a’r Gororau Deheuol. Mae fel rheol yn ymgynnull dair gwaith y flwyddyn i addoli ac i gynllunio’r gwaith. Darllennwch fwy am Grynwyr Cymru yma.
Your Title Goes Here
Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.
Gogledd Cymru
Mae yna 10 o gyfarfodydd Crynwyr ar draws Gogledd Cymru. Er eu bod oll yn addoli arwahan fel cyfarfodydd lleol, maent hefyd yn uno o dan faner Cyfarfod Rhanbarth Gogledd Cymru. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://crynwyr.cymru/gogleddcymru/
Canolbarth Cymru
Mae yna 5 o gyfarfodydd Crynwyr ar draws Canolbarth Cymru, o Drefaldwyn yn y Dwyrain i Aberystwyth a Dolgellau yn y Gorllewin. Er eu bod oll yn addoli arwahan fel cyfarfodydd lleol, maent hefyd yn uno o dan faner Cyfarfod Rhanbarth Canolbarth Cymru. Gallwch ymweld â’u gwefan yma.
De Cymru
Mae yna 13 o gyfarfodydd Crynwyr ar draws De Cymru. Er eu bod oll yn addoli arwahan fel cyfarfodydd lleol, maent hefyd yn uno o dan faner Cyfarfod Rhanbarth De Cymru. Gallwch ymweld â’u gwefan yma.
Y Gororau Deheuol
Mae yna 9 o gyfarfodydd Crynwyr ar draws y rhanbarth a gyfeirir ato fel De’r Gororau, ynghyd â’r Tŷ Cwrdd hynafol, The Pales. Gellir darllen mwy am waith y Crynwyr yn y Rhanbarth yma.
Mae gan sawl cyfarfod ddarpariaeth a gweithgareddau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc. Am fwy o wybodaeth, gwelwch y tudalen ‘Plant a Phobl Ifanc’.
Ar gyfer siaradwyr a siaradwyr newydd y Gymraeg, mae cyfarfod ar-lein y Crynwyr Cymraeg ar 2il a 4ydd nos Iau bob mis. Cliciwch ar y botwm Crynwyr Cymraeg isod i ymweld â’u gwefan.