Crynwyr Cymru, yw’r sefydliad sydd yn tynnu Crynwyr sy’n byw yng Nghymru at ei gilydd. Mae’n gweithio gyda’r 4 cyfarfod rhanbarthol yng Nghymru a’r Gororau Deheuol. Mae fel rheol yn ymgynnull dair gwaith y flwyddyn i addoli ac i gynllunio’r gwaith.
Mae gan Grynwyr Cymru gyfrifoldebau ar ran ‘Britain Yearly Meeting’, i gynrychioli a hyrwyddo bywyd a thystiolaeth y Crynwyr yng Nghymru. Mae’r cyfrifoldebau yma’n cynnwys apwyntio cyfeillion i wasanaethu ar Bwyllgorau a Grwpiau megis Cytûn; cyfathrebu gyda’r Senedd a’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru, yn ogystal â chynnal perthnasau gyda chyrff cyhoeddus ac elusennau eraill yng Nghymru, yn enwedig cyrff sydd â diddordeb mewn cyfiawnder cymdeithasol, heddwch a gwaith rhyngffydd. Mae hefyd yn cynrychioli Crynwyr Cymru yn ‘Britain Yearly Meeting’ pan fo angen.

Mae Crynwyr Cymru yn gweithredu’n ddwyieithog, ac yn darparu dogfennau’n ddwyieithog fel rheol, yn ogystal â threfnu cyfieithu ar y pryd yn y cyfarfodydd.
Laura Karadog yw Cydlynydd Crynwyr Cymru. Gallwch gysylltu gyda Laura ar y ffôn neu drwy ebost. Mae hi’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.