Mae croeso i deuluoedd a phlant yn ein cyfarfodydd, ac mae rhai o’n cyfarfodydd mwyaf yn cynnig cyfarfod a gweithgareddau amrywiol i blant a phobl ifanc (holwch yn eich cyfarfod lleol am fanylion). Yn ogystal â mynychu eu cyfarfod lleol, mae cyfleoedd lu ar gael i fynychwyr a Chrynwyr ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu hwnt i’r Ty Cwrdd, ac hefyd i ddysgu mwy am grynwriaeth, a datblygu eu sgiliau, drwy wirfoddoli’n lleol ac yn rhyngwladol.