Mae’r elusen A Rocha UK yn elusen Gristnogol sydd yn gweithio i warchod ac adfer y byd naturiol, a helpu Cristnogion ac eglwysi yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny hefyd. Fel rhan o’r gwaith, eleni cynhelir wythnos   ‘Eglwysi’n Cyfrif Natur’ sydd rhwng y 3ydd a’r 11eg o Fehefin.

Dyma Delyth Higgins, Swyddog Eglwysi Eco A Rocha UK, yn egluro’r cynllun;

“Mae’r rhaglen yn gyfle wythnos o hyd i ganolbwyntio  ar y bywyd gwyllt anhygoel sydd o fewn ein mynwentydd fel capeli ac eglwysi (ac unhryw ddarn o dir arall sydd gennych o ran hynny!)   Mae yn brosiect flynyddol ar y cyd rhwng Caring for God’s Acre, A Rocha UK, Yr Eglwys yng Nhymru ac Eglwys Lloegr, ac mae’n annog pobl sy’ yn ymwneud a a’n heglwysi a’n mynwentydd i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau sy’ a ffocws byd natur yn ystod yr wythnos yma.  

Mae yn agored i BOB ENWAD ac felly gofynnwn i chi annog eich aelodau i gymryd rhan. Gallant fod yn gyfleoedd gwych i wahodd aelodau’r gymuned i mewn i’ch tir – pobl sydd efallai ddim yn dod i’r capel neu’r eglwys fel arfer ac yn gyfle i wneud cysylltiadau newydd felly.  

Rydym yn edrych am fwy o ddigwyddiadau a gweithgarwch yng Nghymru eleni yn arbennig!

Fe all y weithgarwch fod yn daith natur, tacluso, arddangosfeydd neu adeiladu cartrefi i  fywyd gwyllt (bocsys adar, neu tai i ddraenogod ac ati) a gall naill ai cael eu rhedeg gan yr eglwys yn unig, neu ar y cyd rhwng grwp natur lleol e.e.  ymddiriedolaeth natur leol, neu RSPB.  Ewch yma am fwy o wybodaeth- Love your Burial Ground Week & Churches Count on Nature – FAQs – Caring For God’s Acre – the conservation charity for burial grounds across the UK (caringforgodsacre.org.uk)

Ac os ydy’r gweithgarwch yn ymwneud a chyfri mathau o fywyd gwyllt, gallwch gymryd rhan mewn arolwg cenedlaethol. Gall eich cofnodion gael eu hychwanegu i wefan a map y ‘National Biodiversity Network’  https://burialgrounds.nbnatlas.org 

Mae cofrestru am ddim ac unwaith i chi gofrestru cewch gopi o ddau lyfryn – ‘Churches Count on Nature Starter Guide’ a ‘Guide to Wildlife in Burial Grounds’.  Cofrestrwch yma : Register for Love Your Burial Ground Week/Churches Count on Nature 2023 – Caring For God’s Acre – the conservation charity for burial grounds across the UK (caringforgodsacre.org.uk)

Gobeithio yn wir y gallwch fod yn rhan o Eglwysi’n Cyfrif Natur 2023 y Mehefin yma! ”