Sefydlwyd Pwyllgor ‘Gyda’n Gilydd’ Crynwyr Cymru yn ystod 2022, gyda’r nod o wella cyfathrebu ymysg Crynwyr, yn ogystal â ffurfio perthnasau cadarnhaol a chydweithredol gydag unigolion a mudiadau eraill sydd yn rhannu ein gwerthoedd a’n daliadau.

I gyrraedd y nod yma, byddwn yn gwneud defnydd o wefan Crynwyr Cymru, y cyfryngau cymdeithasol a chylchlythyrau, ynghyd ag adnoddau megis posteri, taflenni a llyfrau. Gwyddom fod Crynwyr yn byw eu ffydd mewn ffyrdd gweithredol a chyffrous iawn mewn sawl maes gwahanol ledled Cymru. Dymunwn fod yn llawer mwy gweithredol ac effeithiol yn y ffordd yr ydym yn rhannu’r wybodaeth yma ymysg Cyfeillion ledled Cymru a thu hwnt. Felly, os oes ganddoch chi brosiect cyffrous ar y gweill, plis rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu rhannu’r wybodaeth gydag eraill!

Yn ogystal, os hoffech ysgrifennu blog ar fater sydd o bwys i chi, neu rannu gwybodaeth am gyfarfodydd neu gyrsiau a all fod o ddiddordeb i Gyfeillion neu fynychwyr eraill, plis cysylltwch – crynwyrcymru@gmail.com .

Mae’r byd wedi newid yn sylweddol yn sgil y pandemig covid byd-eang ac mae’n ffyrdd o addoli a byw ein ffydd hefyd wedi gorfod newid ac addasu, gyda chyfryngau digidol a’r byd rhithiol yn llawer mwy blaenllaw ym mywydau pob un ohonom bellach. Gadewch i ni wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a gynigir gan y dulliau yma o gyfathrebu i’n tynnu ni i gyd ynghyd.

Ond, wrth gwrs, dyw’r byd rhithiol ddim yn cymryd lle cwrdd wyneb yn wyneb ac mae’r Grŵp Gyda’n Gilydd yn brysur ar hyn o bryd yn cynllunio presenoldeb Crynwyr Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llŷn ac Eifionydd, Awst 2023! Os hoffech ymuno â ni yn yr Eisteddfod eleni, neu os oes ganddoch chi unrhyw syniadau ar gyfer gweithgareddau y gallem eu cynnal yno, yna plis cysylltwch â Laura – crynwyrcymru@gmail.com .

Mae gan Gyda’n Gilydd gylchlythyr newydd fydd yn cael ei rannu’n fisol gyda Chyfeillion. Os hoffech dderbyn y cylchlythyr, cliciwch yma i danysgrifio! Rydym wir yn edrych ymlaen i gyfathrebu’n agosach a dod i adnabod ein gilydd yn well drwy wneud!

Cofion cynnes,

Laura, Rhian, Medi, Lulu ac Emma (Aelodau Pwyllgor Gyda’n Gilydd)

(Aelodau Cyfredol y Grŵp Gyda’n Gilydd yw: Laura Karadog, Cydlynydd Crynwyr Cymru; Rhian Parry, Cynullydd y Grŵp ac aelod o Gyfarfod Pwllheli a’r Bala; Lulu Taylor, Cyfarfod Bae Colwyn; Medi James, Cyfarfod Aberystwyth; Emma Roberts, Cyfarfod Abertawe. Mae’r grŵp hefyd yn adeiladu rhestr o Gyfeillion a hoffai gyfrannu i waith cyfathrebu yn achlysurol, e.e. drwy ysgrifennu erthygl neu flog, neu drwy gynnal gweithgaredd ar gyfer cyfeillion ayb. Os hoffech i ni eich cynnwys ar y rhestr yma, plis cysylltwch â Laura – crynwyrcymru@gmail.com)