Condemniodd Crynwyr Prydain yn daer yr ymosodiad ar addoldy Tŷ Cwrdd San Steffan gan Swyddogion yr Heddlu metropolitan ar y 27ain o Fawrth. Mae Crynwyr Cymru yn cefnogi’r safbwynt hwn ac yn honni ei fod yn ganlyniad uniongyrchol i ddeddfau protest llymach sy’n dileu bron pob llwybr i herio’r statws quo.

Mae’r Ddeddf ‘Police, Crime, Sentencing and Courts Act 2022’ a’r Ddeddf ‘Public Order Act 2023’ wedi troseddoli sawl math o brotest ac yn caniatáu i’r heddlu atal gweithredoedd y bernir eu bod yn rhy aflonyddgar.

Yn y cyfamser, mae newidiadau mewn gweithdrefnau barnwrol yn cyfyngu ar allu protestwyr i amddiffyn eu gweithredoedd yn y llys. Mae hyn i gyd yn golygu bod llai a llai o ffyrdd i siarad gwirionedd wrth rym.

Mae Crynwyr yn cefnogi’r hawl i brotest gyhoeddus ddi-drais, gan weithredu eu hunain o reidrwydd moesol dwfn i sefyll yn erbyn anghyfiawnder a thros ein planed.

Mae llawer wedi cymryd camau uniongyrchol di-drais dros y canrifoedd o ddileu caethwasiaeth i bleidlais i fenywod a diwygio carchardai.

Dywedodd Paul Parker, clerc recordio Crynwyr Prydain:

“No-one has been arrested in a Quaker meeting house in living memory.

“This aggressive violation of our place of worship and the forceful removal of young people holding a protest group meeting clearly shows what happens when a society criminalises protest.

“Freedom of speech, assembly, and fair trials are an essential part of free public debate which underpins democracy.”