Mae sesiynau Sgwrs ar Zoom yn gyfle i Grynwyr a mynychwyr i ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch gyfeillgar a chefnogol. Yma, mae Medi James, arweinydd y sesiynau o Gyfarfod Aberystwyth, yn trafod hanes Sgwrs ac yn egluro sut y gallwch chi ymuno!

Cychwynwyd sesiynau SGWRS yn dilyn patrwm ‘Welsh Lingo’ Ruth Moore Williams Rhanbarth Gogledd Cymru. Roedd sesiynau Ruth dros zoom yn rhoi cyfle i Grynwyr a’n dilynwyr i gymdeithasu a chadw cyfeillgarwch yn fyw yn ystod y cyfnodau clo.  Mae natur fywiog Ruth a’i chariad at gerddoriaeth a chymdeithasu yn trosglwyddo’n wych drwy zoom.

Cyflwynodd Ruth ei syniadau am ‘Welsh Lingo’ yng Nghwrdd Blynyddol Prydain yn 2021. Bu ymateb gwych i’r sesiwn yma a chyfaddefiad nifer o’r gwrandawyr oedd eu nerfusrwydd a’i hansicrwydd wrth siarad Cymraeg yn ein cyrddau ag o fewn ein Cymdeithas ni.

Penderfynwyd rhoi tro ar gynnal zoom yn rheolaidd a’i alw’n SGWRS.  Cyfle i Gyfeillion oedd naill ai a diffyg hyder i siarad Cymraeg ac angen mwy o ymarfer, Grŵp Croeso; neu rai oedd angen cyfle i sgwrsio a gwella eu Cymraeg llafar sef Grŵp Croesi’r Bont.  Dwi’n bersonol hefyd yn cynnig, i rai sy’n betrus iawn, i ddod yn unig i wrando ar leisiau amrywiol, goslef, a sain yr Iaith Gymraeg.

Erbyn hyn, dwy flynedd yn ddiweddarach rydym yn parhau i gyfarfod yn fisol am awr ar nosweithiau Mercher. Mae’n cylch Cyfeillion yn eang, nid yn unig o Gymru ond o Loegr hefyd. Mae’r mewnbwn wedi bod yn amrywiol, o drafod diddordebau, newyddion, barddoniaeth a gwyliau. Mae’n ddifyr cael hanes cyrddau gwahanol a gwybod am ddigwyddiadau amrywiol o Gaerwynt i Fae Colwyn.

Mis yma aethon ni ychydig yn ddyfnach a thrafod rhif 1 Cynghorion a Holiadau. Dod i ddeall ambell i air Cymraeg anghyfarwydd a chymharu’r Gymraeg a’r Saesneg. Y gobaith ydy i ni ddod a’r anghyfarwydd yn gyfarwydd trwy eu defnyddio. Pwy a ŵyr y newid gall hwn wneud i ddeinamig ein trafod a’n Cyrddau. Ymestyn geirfa ac ymarfer eu defnyddio. Sylweddolon ni i gyd pa mor anodd oedd gwaith William Morgan wrth gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg!

Bod yn agored a chynhwysol yw’r gobaith, a chael laff yr r’un pryd. Chwalu ambell fyth falle, a dod i adnabod ein gilydd yn well.

Cysylltwch â crynwyrcymru@gmail.com i roi eich cyfeiriad e bost ar restr cyswllt SGWRS