Mae Crynwyr Cymru – Quakers in Wales yn chwilio am weinyddydd newydd. Rydym yn chwilio am rywun, am flwyddyn i gychwyn, tra’n bod ni’n ailystyried ein gofynion mewn cyfnod o newid arwyddocaol i’r Gymdeithas. Ceir swydd-ddisgrifiad YMA .
I ymgeisio danfonwch lythyr yn esbonio sut mae eich sgiliau a’ch profiad yn ateb y gofynion a nodir yn y swydd-ddisgrifiad, gan gynnwys c.v. ac enw a chyfeiriad dau ganolwr, at Deborah Rowlands, Clerc yr Ymddiriedolwyr, deborahjrowlands@gmail.com.
Dylid anfon ceisiadau erbyn 31 Gorfennaf 2023. Disgwylir cynnal cyfweliad yn ystod wythnos Awst 14eg 2023 Mae croeso i chi gysylltu â Deborah am fwy o wybodaeth.