
Er enghraifft, mae rhai Crynwyr yn glynu yn agosach at ddysgeidiaethau’r Beibl nag eraill. Mae rhai yn dewis addoli mewn dull mwy efengylaidd, ac eraill yn fwy rhyddfrydol yn eu dulliau o addoli, ac yn strwythur eu cyfarfodydd. Gallwch ddysgu mwy am y mathau gwahanol o Grynwyr sydd yn bodoli dros y byd yma.
Fel pobl sydd yn byw eu ffydd, mae Crynwyr yn weithredol iawn mewn ymgyrchoedd dros hawliau pobl, a dyfodol ein planed, ledled y byd. Er enghraifft, mae gan y Crynwyr swyddfeydd yn adeiladau’r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd a Genefa. Yno, maent yn ymgynghori ag aelodau Ysgrifenyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, ynghyd â chynrychiolwyr o sefydliadau anllywodraethol, aelodau o wahanol grwpiau ffydd a chynrychiolwyr o amrywiol wledydd y byd.
Ymhlith y meysydd gwaith y mae’r swyddfeydd hyn yn cyfrannu atynt mae hawliau dynol, diarfogi, yr amgylchedd, cyfiawnder economaidd, masnach a datblygu, eirioli achosion rhyngwladol dwys, cyfiawnder troseddol a hawliau ffoaduriaid. Darllenwch fwy am waith y Crynwyr yn y Cenhedloedd Unedig yma.
A darllennwch yma am y ffyrdd y mae Crynwyr yng Nghymru yn byw eu ffydd.
