Symlrwydd a Chynaliadwyedd

Mae Crynwyr yn bryderus am ormodedd a gwastraff yn ein cymdeithas. Rydym am sicrhau bod ein defnydd o adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Rydyn ni’n ceisio byw yn syml a dod o hyd i le ar gyfer y pethau sy’n wirioneddol bwysig: y bobl o’n cwmpas, y byd naturiol, a’n profiad o lonyddwch. Mae nifer o Grynwyr yn weithgar iawn ym maes newid hinsawdd a chynhesu byd-eang.

Yma, yng Nghymru, rydym yn aelodau o ymgyrch Climate.cymru sydd yn gweithio tuag at gyfarfod COP26 a thu hwnt, ac mae gan nifer o’n cyfarfodydd rhanbarthol grwpiau sydd yn ymwneud â materion amgylcheddol a chynaliadwyedd.

Cawn ein harwain gan yr ysbryd i gydnabod undod yr holl greadigaeth. Yn hanesyddol mae Cyfeillion wedi tystio i sancteiddrwydd bywyd yn ei holl ffurfiau, fel y mynegwyd gan John Woolman yn 1772; “The produce of the earth is a gift from our gracious creator to the inhabitants, and to impoverish the earth now to support outward greatness appears to be an injury to the succeeding age.”

Yn 2011, yn ein Cyfarfod Haf yng Nghaergaint, daeth Cyfeillion ynghyd i greu Ymrwymiad Caergaint, ymrwymiad corfforaethol cryf i fod yn gymuned gynaliadwy carbon isel.

Yn rhyngwladol, down at ein gilydd yng Nghynhadledd Cyfeillion y Byd i herio economïau mwyaf pwerus y byd, fel yr eglurir yn Natganiad Kabarak sydd yn nodi ein gwrthwynebiad i bolisïau a yrrir gan ‘drachwant yn hytrach nag angen’.

Drwy Swyddfa Cenhedloedd Unedig y Crynwyr, sydd wedi’i lleoli yng Ngenefa ac Efrog Newydd, awn a’n pryderon ynghylch materion cymdeithasol ac amgylcheddol gerbron y Cenhedloedd Unedig.

Fel unigolion, cawn ein cefnogi a’n herio yn ein bywydau bob dydd gan ‘Green Advices and Queriesy Crynwyr.