Mae Jane Powell a Medi James wedi ail gychwyn cynnal sesiynau Addysg Heddwch ar ôl toriad Covid. Maent wedi bod gyda disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Plascrug, Aberystwyth. Fe welir nhw yn y llun yn cymryd rhan yn stori’r chwant am ‘Maltesers’ ac yn gorfod datrys anghydfod a cheisio deall y cyfryngu sy’n gorfod digwydd os am ddatrysiad sy’n golygu bod y ddwy yn ennill.

Mae’r Cynllun Addysg Heddwch yn cynnig rhaglen awr yr wythnos am chwe wythnos i blant hŷn ysgolion cynradd Gogledd Ceredigion a Gogledd Powys. Mae gwirfoddolwyr yn cyflwyno’r themâu o wrthdaro a heddwch i’r plant. Eu nod yw cynnig bod plant yn dod i drin ei gilydd a pharch, i gydweithio a dysgu sgiliau datrys problemau mewn ffordd adeiladol. Mae’n ymateb i’r diwylliant o drais a gelyniaeth sydd yn ein cymdeithas heddiw.

Gwneir y sesiynau yn ystod ‘amser cylch’ gan ddefnyddio cymysgedd o drafodaethau, gwaith par gemau a drama. Byddant yn defnyddio amser tawel a chyflwyno ymarferion anadlu a chynnig sgiliau i’r disgyblion ar sut i ddelio a straen ei hunan. Arbrofir ar ffyrdd diogel o fynegi dicter; annog empathi a sgiliau gwrando; chwilio heddwch o fewn eu hunain ac anelu at ddatrys gwrthdaro a chyfryngu cyfoedion.

Mae’r sesiynau yn cwmpasu themâu’r Cwricwlwm newydd i Gymru a chant eu croesawu gan
athrawon a phenaethiaid ysgolion. Yn ogystal fe ddywed Jane a Medi “mae cael bod yng nghwmni plant yn sbort yn ogystal â’n hatgoffa o ba mor galed yw gwaith athro yn tywys plant trwy heriau addysg heddiw”.