Yn sgil proses lwyddiannus o gydweithio er mwyn symleiddio prosesau gwaith y Crynwyr yng Nghymru a’r Gororau Deheuol (gweler Symud Ymlaen / Moving Forwards), mae’r 4 cyfarfod Rhanbarthol wedi dewis uno i greu un Sefydliad Corfforaethol Elusenol (CIO) newydd.
Y cam nesaf yn yr antur hwn yw penodi Ymddiriedolwyr ar gyfer y fenter newydd. Dyma gyfle cyffrous dros ben i arwain ar, a datblygu, gwaith a thyst y Crynwyr yng Nghymru a’r Gororau Deheuol. Mae disgrifiad o’r rôl – y gofynion a’r cyfleoedd – i’w weld yma.
Os yw’r cyfle hwn yn apelio i chi, cysylltwch â: