Beth mae’r Crynwyr yn ei ddweud:
- Mae rhywbeth sanctaidd ynddom ni i gyd.
- Mae pawb yn gyfartal yng ngolwg Duw.
- Mae crefydd yn ymwneud â bywyd yn ei gyfanrwydd.
- Mewn tawelwch down o hyd i ymdeimlad dyfnach o bresenoldeb Duw.
- Mae gwir grefydd yn arwain at barchu’r ddaear a’r holl fywyd sydd arni.
- Mae pob unigolyn yn unigryw, yn werthfawr ac yn blentyn i Dduw.

Amdanon Ni
Down ynghyd i helpu’n gilydd i fod yn agored i’r ysbryd. Mae yna hen hanes i’r Crynwyr yng Nghymru a chroesawn bawb sy’n chwilio am fyd ble gall pawb ddilyn yr ysbryd a byw’n heddychlon. Ceisiwn gymdeithas deg sy’n cydnabod gwerth pob person.
Hanes y Crynwyr yng Nghymru
Cychwynodd yr hyn a adnabyddir fel Crynwriaeth yn ystod y dyddiau tywyll a thresigar tua diwedd rhyfeloedd cartref y 1640au. Roedd y wlad mewn helbul yn sgil digwyddiadau’r cyfnod, megis dienyddio’r Brenin Siarl 1af yn 1649. Roedd dadleuon lu am yr angen i’r eglwys ddiwygio; am natur a dulliau’r llywodraeth; am yr anghyfartaledd mewn cyfoeth a grym, ac am yr angen am fwy o gyfiawnder cymdeithasol.

Newyddion Diweddaraf
‘Y Gymraeg yn y Llyfr Disgyblaeth’ – Gorffennaf 27ain, 2021, 12:30pm
Gweithdy i rannu eich barn ar sut y dylid datblygu cynnwys Cymraeg ar gyfer yr addasiad newydd o Llfr Disgyblaeth y Crynwyr.